Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Ionawr 2019
Amser:
08.30 -
08.53
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Ann Jones AC, Dirprwy Llywydd, (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Anfonodd y Llywydd ei hymddiheuriadau gan ei bod mewn digwyddiad yn Nulyn yn nodi 100 mlynedd ers agor Senedd Iwerddon. Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd y cyfarfod.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Trefnydd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cynnig i atal y Rheolau Sefydlog a threfnu dadl ar 30 Ionawr yn dilyn y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar 29 Ionawr ar Gytundeb Ymadael â'r UE. Derbyniodd y Rheolwyr Busnes y cynnig i ohirio'r ddadl ar yr 'Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau 2018’ o 29 Ionawr er mwyn gwneud lle am ddadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddydd Mawrth, gan ryddhau amser ar gyfer dadl y Llywodraeth ar 30 Ionawr.
Bydd cynnig ar gyfer dadl y Llywodraeth yn cael ei gyflwyno unwaith y bydd canlyniad y pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin yn hysbys.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mawrth 29 Ionawr 2019 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Barodrwydd ar gyfer Brexit (60 munud)
Dydd Mercher 30 Ionawr 2019 -
·
Dadl ar
Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) – ni chyflwynwyd cynnig
Dydd Mercher 13 Chwefror 2019 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18 (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: cytundeb perthnasau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl ar 29 Ionawr.
Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl yn y dyfodol.
Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r memorandwm hwn at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a dyddiad cau i adrodd ar 1 Mawrth.
Nododd y Rheolwyr Busnes ddiben a chynnwys y papur, a chytunodd i drafod y papur eto ymhen pythefnos.